jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Gwefan yw hon ar gyfer astudio bywyd a gwaith Ann Griffiths (1776-1805), un o feirdd ac emynwyr pwysicaf Cymru, a bardd Cristnogol o faintioli rhyngwladol.

Mae tair prif adran i’r wefan:

1. Astudio Ann Griffiths
Deunydd gan Dr E. Wyn James am fywyd, gwaith a chefndir Ann Griffiths, gan gynnwys cyflwyniad cyffredinol i’w bywyd a’i gwaith.

2. Testunau digidol
Fersiynau digidol o lawysgrifau, llyfrau ac erthyglau yn ymwneud ag Ann Griffiths, yn cynnwys y testunau cynharaf o’i hemynau a’i llythyrau, deunydd bywgraffyddol crai, a rhychwant o drafodaethau beirniadol.

3. Gwaith Ann Griffiths (gol. E. Wyn James)
Testun emynau a llythyrau Ann Griffiths.

Mae cynnwys y wefan hon dan hawlfraint. Ewch i’r tudalen Materion hawlfraint am fanylion ynghylch perchnogion hawlfraint ac amodau atgynhyrchu deunydd.

I weld manylion technegol ynghylch y wefan a’r prosiect digido, ewch i’r tudalen Gwybodaeth am y Prosiect Digidol.

Bwriadwn ddatblygu’r wefan hon ymhellach trwy osod deunydd ychwanegol arni o bryd i’w gilydd. Croesawn eich ymholiadau a’ch awgrymiadau ynghylch y wefan a’i chynnwys: Cysylltu â ni.